Teulu o Sir Gâr yn lansio apêl ‘Motoron Cymru‘ i godi arian at ymchwil clefyd Motor Neurone
Mae teulu o Sir Gâr yn gobeithio codi £10,000 at ymchwil clefyd Motor Neurone Disease (MND).
Mae Bob Gledhill, 52, ei wraig, Dr Lowri Davies, a’u mab, Will, 16, wedi penderfynu codi’r arian ar ôl i Bob gael diagnosis MND, salwch difrifol sy’n byrhau bywyd.
Mae’r teulu, sy’n byw yn Rhyd-ar-gaeau ger Caerfyrddin, wedi lansio sialens ‘Motoron Cymru‘, sef dringo mynyddoedd uchaf Cymru, gan seiclo rhwng bob un, dros benwythnos 2-4 Gorffennaf 2021.
Bydd arian o’r apêl yn mynd tuag at waith ‘My Name’5 Doddie Foundation’, a sefydlwyd gan y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol o’r Alban, Doddie Weir, i ariannu ymchwil i iacháu MND, gyda’r pwyslais ar dreialon clinigol. Bydd rhan o’r arian hefyd yn cefnogi’r hosbis sy’n cael ei gynnal gan gymuned aml-ffydd Skanda Vale, ger Llandysul.
Mae codi ymwybyddiaeth o MND ynghyd â’r angen am fynediad gwell at ofal arbenigol a chefnogaeth mwy eang i gleifion MND yng Ngorllewin Cymru hefyd yn flaenoriaeth.
Ym mis Hydref 2020 derbyniodd Bob y newyddion ofnadwy bod MND arno. Mae MND yn effeithio ar y niwronau yn yr ymennydd a modruddyn y cefn sy’n rheoli’r cyhyrau. Mae hyn yn arwain at wendid yn y cyhyrau ac mae’n gallu effeithio ar gerdded, siarad, bwyta, yfed ac anadlu. Mae’n anodd dweud beth fydd cwrs y clefyd ac mae pob unigolyn yn cael ei effeithio’n wahanol – ond mae cleifion yn byw tua 2-5 mlynedd ar gyfartaledd yn dilyn diagnosis.
Mae cleifion MND sy’n byw mewn rhannau eraill o Gymru yn cael eu cyfeirio’n awtomatig at unedau arbenigol yn Lloegr, ond nid dyma’r achos yng Ngorllewin Cymru, ac ar ôl derbyn y diagnosis, bu’n rhaid i Bob aros sawl wythnos cyn cael ei gyfeirio at adran niwrolegol. Roedd y teulu hefyd yn teimlo’n rhwystredig gyda’r prinder gwybodaeth arbenigol am MND a’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn treialon clinigol yng Nghymru.
Eglura Bob: “Yn dilyn trawma y diagnosis, ro’n i’n teimlo bod y gwasanaethau lleol wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun – yr hyn oedd ei angen oedd apwyntiad prydlon gyda chanolfan MND arbenigol, ond ni ddigwyddodd hynny am wythnosau. Roedd hefyd yn anodd cael gafael ar wybodaeth fanwl am y clefyd a sut i ddelio ag e. Roedd yn rhaid i ni wneud ein hymchwil ein hunain ar bethau fel deiet ac ymarfer corff, therapi cyffuriau a mynediad at dreialon clinigol.
“Fe gysyllton ni ein hunain â’r Ganolfan Gofal ac Ymchwil MND yn Rhydychen, oedd yn gefnogol dros ben, ond dw i’n dal i aros am apwyntiad swyddogol gyda’r ganolfan. Byddai ymdopi gyda’r diagnosis wedi bod yn haws petai ni wedi cael ein cyfeirio at ganolfan fel hon yn union wedi’r diagnosis.
“Er gwaetha’r diagnosis ofnadwy yma, fel teulu, ry’n ni’n benderfynol o fyw pob dydd i’r pen. Dw i eisiau aros yn iach am gyhyd ag sy’n bosib a dw i wir yn gobeithio y galla i gymryd rhan mewn treial clinigol – mae gallu cyfrannu at ymchwil MND a gwneud gwahaniaeth i eraill, i’r dyfodol, yn hollbwysig i fi.”
Mae Bob yn hyfforddi ar gyfer sialens Motoron Cymru ac mae wedi cerdded a seiclo cannoedd o gilometrau yn barod fel rhan o’r gwaith paratoi.
Meddai Bob: “Mae aros yn bositif yn hollbwysig er mwyn ymdopi â’r clefyd erchyll yma, ac i ni fel teulu, mae her Motoron Cymru yn rhoi targed ymarferol. Bydd teulu, ffrindiau a chydweithwyr yn ymuno â fi ar yr her ac mae eu cefnogaeth yn ein helpu ni i gadw i fynd. Mae chwarae rhan yn ymdrechion y gymuned MND i ddod o hyd i ffordd o iacháu’r clefyd hefyd yn rhan bwysig o gadw’n bositif.”
Yn wreiddiol o Huddersfield, mae Bob wrth ei fodd gyda gweithgareddau awyr agored. Fe wnaeth e a Lowri gwrdd yn Peru ym 1994 pan oedd Lowri yn teithio yn y wlad a Bob yn gweithio fel arweinydd antur. Fe deithiodd y pâr yn helaeth, cyn setlo yn eu tyddyn yn Rhyd-ar-gaeau, lle mae Bob yn helpu Lowri i redeg Clinig SMART Specialist Veterinary Referrals Clinic, sydd wedi ennill bri yn rhyngwladol am ei waith.
Mae gan y teulu gysylltiad ers nifer o flynyddoedd â Skanda Vale, gan fod Lowri yn gofalu am lawer o anifeiliaid y ganolfan, gan gynnwys eliffant amddifad a roddwyd i Skanda Vale gan Frenin Sri Lanka.
Ychwanegodd Bob: “Dw i’n benderfynol o ddal ati a brwydro am fwy o gefnogaeth i gleifion MND yng Ngorllewin Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o’r clefyd creulon yma a helpu ffeindio ffordd o’i wella. Dw i eisiau helpu eraill i lawr y lein a gwarchod cleifion eraill rhag fy sefyllfa i.”