I bwy yr ydym am godi arian?

Mae gwybodaeth yn bwerus ond wrth gwrs bydd ymchwil yn hanfodol ar gyfer sicrhau gwybodaeth. Am y rheswm hyn rydym am gefnogi “My NAME’5 DODDIE Foundation” 

Dechreuwyd y sefydilad gan Doddie Weir a’r ymddiriedolwyr mewn ymateb i’w rhwystredigaeth wrth sylwi ar y diffyg opsiynau sydd ar gael i ddioddefwyr MND – dim triniaeth effeithiol, dim argaeledd i dreialon cliniigol ystyrlon ac anobaith o’r herwydd. Yr union sefyllfa oedd yn ein hwynebu ninnau.

Yn eu geiriau nhw:

We could have given our funds to existing charities and bodies to invest on our behalf, but we wanted to be able to make our own decisions and direct funds to where we felt they could have the biggest impact.

With this in mind, we reached out to leading neuroscientists, professors and medical researchers and invited them to become part of our Advisory Panel. We now regularly engage with the research community to seek their advice and to help us better understand MND and work towards finding a cure. with our fund raising efforts” .

Am yr union resymau hyn y gwnaethon ni benderfynu cefnogi’r ymddiriedolaeth gyda’r sialens Tri Chopa

Rydym yn awyddus hefyd i gynorthwyo ein cymuned leol yn Sir Gaerfyrddin, felly bydd rhan o’r cyllid yn cael ei gyflwyno i hospis sy’n cael ei redeg gan gymuned Aml Ffydd yn Skanda Vale. Sefydlwyd yr hospis annibynnol yn 1993 gyda’r tîm yn cynnwys ymddiriedolwyr bron yn gyfangwbwl gyda sgiliau arbennig.

Scroll to top