Beth yw MND?
Term yw MND neu CLEFYD MOTOR NIWRON sy’n disgrifio grŵp o glefydau sy’n effeithio ar y system nerfol yn yr ymennydd a’r meingefn. Rhain sy’n trosglwyddo negeseuon i’r cyhyrau, sy’n trefnu a rheoli ein symudiadau bob dydd. Pan fo’r nerfau sy’n gwneud y trosglwyddiad yn dirywio mae’r cyhyrau yn dechrau gwanhau ac yna’n mynd i ben.
Bydd MND yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mewn rhai enghreifftiau bydd y nerfau sy’n rheoli anadlu a llyncu yn ogystal â llefaru yn cael eu heffeithio yn y lle cyntaf. Gydag eraill y breichiau a’r coesau sy’n cael eu heffeithio i ddechrau, gan gyfyngu ar eu gallu i symud ac i wneud eu gwaith o ddydd i ddydd.
Ymhob achos mae’r clefyd yn gynyddol, yn byrhau oes y person, gyda’r amser goroesi ar ôl cael diagnosis ar gyfartaledd, rhwng dwy a phum mlynedd.
Clywir yn aml nad yw’n glefyd sy’n amhosib i’w wella, ond nad oes digon o gyllid yn cael ei gyfrannu ato. Ar hyn o bryd nid yw’r llywodraeth yn buddsoddi ond rhyw dair milliwn y flwyddyn at ymchwil MND, swm pitw iawn pan ystyriwch fod y risg bersonol o gael MND mewn oes gyfan yn 1 mewn 300 a bod na ddau berson ym mhob 100,000 yn dioddef or clefyd. Mae tua phum mil o oedolion yn byw gyda’r clefyd yn y Deyrnas Unedig ar unrhyw adeg arbennig.
MND a’n Teulu Ni
Ar ol sylwi bob Bob, fy ngŵr, yn cael trafferth gafael am bethau gyda’i law chwith, cafodd ddiagnosis o MND, mis Hydref, 2020. I berson 52 oed a oedd yn iach a heini cyn hynny, roedd y newydd yn gwbwl dorcalonnus. Ar ôl rhai wythnosau i ni fel teulu ymgyfarwyddo gyda’r syniad o ddyfodol pur wahanol, daethom i’r penderfyniad na allem adael y newyddion reoli ein bywydau yn llwyr, ond ein bod am wneud y gorau posibl o bob dydd yn ei dro. Roeddem yr un mor benderfynol i geisio gwthio’r wybodaeth i gefn ein meddyliau ac i fyw ein bywydau mor normal â phosibl, cyhyd â phosibl. Wedir cyfan mae agwedd bositif yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.
Gall positifrwydd amlygu ei hun mewn amrywiol ffyrdd e.e. cwblhau deg milltir o gerdded, gwthio beic mynydd drwy ddyfnder o fwd, coginio teisen dda, derbyn cefnogaeth ffrindiau. I ninnau roedd hefyd yn golygu bod yn rhan o gymdeithas ehangach i geisio dod o hyd i driniaeth lwyddiannus ar gyfer MND.
Yn wahanol i’r Alban, a Lloegr ar hyn o bryd, does dim ymchwil penodol ar gyfer MND yng Nghymru, na llawer o sylw i gleifion yn arbenning yng Ngorllewin y wlad. Gan fod gofal iechyd wedi cael ei ddatganoli, mae’n amhosib i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael yng nghanolfan Euan MacDonald yng Nghaeredin, neu i ganolfan ymchwil MND yn Rhydychen. Roedd yr un mor anodd i gael cymeryd rhan mewn treialon clinigol a chyfrannu at yr ymdrech i ddod o hyd i ffordd o wella’r cyflwr. Hyd yn hyn dyma’r sialens fwyaf i ni ei hwynebu wrth geisio byw gyda’r clefyd.