Y Sialens: Rhan 2
Ar ôl lwyddiant ymgyrch cyntaf Motoron.Cymru, roedd yr un mor bwysig i ni fel teulu aros yn weithgar a dal ymlaen ȃ’r ymgyrch am ffordd fwy weithredol o drin MND yng Nghymru.
Pan ddrechreuon ni’r daith hon ein bwriad ni oedd codi £10,000 ond gyda’r cefnogaeth aruthrol godwyd yn agos I £70,000 ac efallai’n fwy bwysig, yr ymroddiad i ddechrau treialon ‘SMART’ yng Nghymru. Ar ôl Sialens y 3 Copa, roedd yn siom i wastraffu’r holl egni a dyna sut ganwyd y syniad o seiclo i Gaeredin i drosglwyddo’r siec i Doddie yn bersonol.
Ar 22ain o Mis Awst ymunodd criw fyddlon o ffrindiau a theulu ȃ ni i seiclo tua 65 milltir y dydd o’r Wyddfa i Din Eiddyn yng Nghaeredin. Gall unrhyw daith deimlo’n hir a llafarus ond ychwanegu ffrindiau a digon o chwerthin a mae’r milltiroedd yn hedfan. Gall ddweud yr un am ein taith ni gyda MND, nid yw’n rhywbeth gall wynebu yn unigol. Mae’r ffordd yn rhy serth. Ond gyda’r cefnogaeth gall barhau i gamu ‘mlaen.
Y cam nesaf I Motoron.Cymru yw sichrhau fod Cleifion MND yng Nghymru yn gallu ddod o hyd I’w sialens ei hun gyda’r cefnogaeth i aros yn bositif a weithgar mewn unrhyw ffordd y gallent.
Y Sialens Wreiddiol
Wnewch chi byth gyrraedd copa’r mynydd wrth ddanto cyn dechrau. Felly yn unol â’r penderfyniad i filwrio ymlaen cyhyd ag sy’n bosibl fe benderfynon ni osod sialens fach ar gyfer penwythnos gyntaf Mis Gorffennaf. Gwahoddiad oedd i aelodau anturus o’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr i ymuno â ni i ddringo tri chopa mynyddoedd Cymru drwy ffordd ddigon anodd. Roedd yr antur dros y penwythnos yn llawer o hwyl yn ogystal â’n galluogi ni I godi arian allweddol ar gyfer ymchwil M.N.D. a hefyd i’n hospis lleol yn Skanda Vale.
Cynhaliwyd y sialens ar benwythnos y 3ydd-4ydd o Orffennaf 2021 mewn 5 cam.
Cam 1:
Dringo copa’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru (1085m)
Pellter- 7 milltir (lan a lawr)
Cyfanswm y dringo – 723m (2,372 troedfedd)
Amser – Tua 4 awr (i gd)
Dechrau a diwedd – maes Parcio Pen y Pas (SH 647 557 / LL55 4NY)
Map: OS Explorer OL17
Cam 2:
Seiclo o droed yr Wyddfa i droed Cader Idris
49.7 milltir gyda dringfa o 1142 o fetrau (3747 ft) a disgynfa o 861 metr (2828ft).
Amser – tua 5 awr
Cam 3:
Dringo Cader Idris dros 893 metr ar hyd Ffordd Minffordd
Uchder– 930 metr
Pellter -10KM lan a lawr
Amser – Tua 5 awr
Cam 4:
Seiclo o droed Cader idris i droed Pen y Fan (85 milltir) – tua 9 awr
Cam 5:
Dringo Pen y Fan – 886 metr
Pellter – 6Km lan a lawr
446 metr o ddringo
Tua 2.5 awr
Sialens holl gynhwysol ac unigol oedd hon. Roedd y rhai a oedd yn cymryd rhan yn gallu dewis cyn gymaint neu gyn lleied o’r camau a fynnant. Roedd y pwyslais yn hollol ar gymeryd rhan, gwaith tîm a chydweithio yr holl ffordd. Roedd rhai yn gyflawni targedau personol, eraill yn anelu at amser da, neu jyst yn awyddus i chwarae rhan fach yn yr ymdrech o gyflawni’r bwriad o godi arian at ddau achos gwirioneddol dda.